Nod y sesiwn yw helpu cyfranogwyr i ddeall yr effaith y gall cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma gael ar eu lles eu hunain, gan archwilio strategaethau ymarferol i fagu cadernid a chynnal iechyd emosiynol.
Nod y sesiwn yw cynyddu dealltwriaeth cyfranogwyr o straen, trawma a thrawma dirprwyol, a datblygu sgiliau i gynorthwyo’u lles eu hunain.
Amcanion y Sesiwn:
• Cael mwy o ddealltwriaeth o straen, trawma a’u heffaith ar yr ymennydd.
• Ennill trosolwg ar ymatebion i drawma a sut y gall y rhain ymddangos ymysg plant, pobl ifanc a’r rheiny sydd yn eu cynorthwyo.
• Datblygu dealltwriaeth o drawma dirprwyol ac adnabod ei arwyddion a’i effeithiau.
• Archwilio strategaethau ymarferol i ddiogelu’ch hun rhag effaith trawma dirprwyol.
• Dysgu ystod o sgiliau ymdopi a thechnegau sylfaenu i gynorthwyo lles a chadernid emosiynol.
• Cynyddu ymwybyddiaeth o ffynonellau sydd ar gael o gymorth, a deall pa bryd a sut i gael atynt.
Neilltuwch eich lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly neilltuwch eich lle yn gynnar i sicrhau’ch lle, os gwelwch yn dda. Nodwch fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig, os gwelwch yn dda.
Digwyddiadau cysylltiedig
Gweld y cyfanFocus groups on allowances review in Northern Ireland
Understanding Protective Care and Best Practice for Managing Allegations in Fostering
