Cynghorion, gwybodaeth a hyfforddiant
Mae ein llinell gynghori’n darparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth ar bob mater sy’n effeithio ar wasanaethau maethu a gofalwyr maeth yng Nghymru. Ffoniwch ni ar 0800 316 7664 neu anfonwch e-bost atom yn [email protected]. Rydym yn agored o 9.30yb - 12.30yp o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau’r Banc). Ariannir Llinell Faethu Cymru gan Lywodraeth Cymru. Gallwch siarad â rhywun yn Saesneg neu yn Gymraeg.
- Cymorth Eiriolaeth newydd i Ofalwyr Maeth yng Nghymru
Rydym yn falch o gyhoeddi gwasanaeth Eiriolaeth newydd i ofalwyr maeth yng Nghymru. Cynlluniwyd y gwasanaeth hwn i helpu gofalwyr maeth i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu cefnogi, ac yn cael digon o wybodaeth, ac mae’n darparu eiriolaeth i helpu gofalwyr maeth i rannu’u barnau ac i sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed, yn neilltuol pan all sefyllfaoedd deimlo’n ddyrys neu’n ansicr.
Gall gofalwyr maeth gyfeirio’u hunain yn uniongyrchol at y gwasanaeth, neu gall gweithiwr cymdeithasol wneud atgyfeiriad ar eu rhan. Anogir gofalwyr maeth i gysylltu os ydynt yn teimlo y byddent yn elwa o gael cymorth. Am fwy o wybodaeth neu i gysylltu, anfonwch e-bost, os gwelwch yn dda, at [email protected] neu ffoniwch 02920 440941 neu 07541 628352.
Cynigiwn raglen weminar i ofalwyr maeth, yn ogystal â diweddariadau sy’n benodol i Gymru ar gyfer y sector. Am fwy o wybodaeth, neu i gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â [email protected]
Gall gwasanaethau maethu ledled Cymru hefyd gomisiynu hyfforddiant gennym. Gallwn ddarparu cyrsiau unigol neu becynnau o gyrsiau ar amrywiaeth o bynciau i ddiwallu anghenion eich gwasanaeth. Gellir teilwra’n hyfforddiant ‘mewn swydd’ i ddod â budd i bob gweithiwr proffesiynol yn y tîm o amgylch y plentyn, tra bod ein cyrsiau agored yn cyfarparu unigolion yn eich tîm â’r wybodaeth y mae arnynt ei hangen i wella’u rôl. Am fwy o wybodaeth am yr hyfforddiant a gynigiwn, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.
Gall cymorth annibynnol fod yn hanfodol i ofalwyr maeth pan fônt yn wynebu honiadau neu anghydfodau eraill. Gall Y Rhwydwaith Maethu ddarparu cymorth annibynnol i ofalwyr maeth trwy’u gwasanaeth maethu, trwy amrywiaeth o ddulliau ledled y Deyrnas Unedig.