Gweminar am Linellau Cyffuriau ac Ymwybyddiaeth o Gamfanteisio

Gweminar am ddim i ofalwyr maeth yng Nghymru


Traddodir y sesiwn hon gan y Ditectif Arolygydd Richard
Weber, Cydgysylltydd Llinellau Cyffuriau dros Ddeheubarth Cymru


Bydd y weminar am ddim hon ar gyfer gofalwyr maeth yn darparu trosolwg ar Gamfanteisio Llinellau Cyffuriau sy’n rhoi pobl ifanc sy’n agored i niwed mewn perygl o weithgaredd troseddol a niwed. Byd
d y weminar yn darparu mewnwelediad i sut mae Llinellau Cyffuriau yn gweithredu, yr arwyddion rhybudd i gadw llygad amdanynt, a sut i ddiogelu’r bobl ifanc y gofalwch amdanynt.


Bydd y weminar hon yn cynnwys:
• Dealltwriaeth sylfaenol o Linellau Cyffuriau;
• Sut mae Llinellau Cyffuriau’n fygythiad i’n rhanbarthau;
• Arwyddion a symptomau gweithgareddau Llinellau Cyffuriau;
• Terminoleg;
• Sut y gallwn helpu i fynd i’r afael â chamfanteisio yn ein cymunedau.


Bydd yna gyfle i ofyn cwestiynau ac i ofyn am ragor o gyfraniad gan y Ditectif Arolygydd Weber.


Neilltuwch eich lle am ddim: Disgwylir i’r weminar fod yn boblogaidd, ac
felly neilltuwch eich lle yn gynnar, os gwelwch yn dda. Nodwch, os gwelwch yn dda, fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig

cyhoeddus 02 Meh 26 - 02 Meh 26 10:00 - 11:00 Gweminar Free
Archebwch

Digwyddiadau cysylltiedig

Gweld y cyfan
Loading...
aelod

John Lewis Foster Care Fortnight Celebration: Odney

Archwilio nawr
FCF26 Facebook Header English
Free
21 Mai 2026
John Lewis Odney
Foster Care Fortnight
aelod

Gweminar Archwilio Llencyndod -Syniadau am Rywedd

Archwilio nawr
Group Photo Gettyimages 465124298 Resize
Free
04 Mehefin 2026
Online
Gweminar