Gweminar am ddim i ofalwyr maeth yng Nghymru
Traddodir y sesiwn hon gan y Ditectif Arolygydd Richard
Weber, Cydgysylltydd Llinellau Cyffuriau dros Ddeheubarth Cymru
Bydd y weminar am ddim hon ar gyfer gofalwyr maeth yn darparu trosolwg ar Gamfanteisio Llinellau Cyffuriau sy’n rhoi pobl ifanc sy’n agored i niwed mewn perygl o weithgaredd troseddol a niwed. Byd
d y weminar yn darparu mewnwelediad i sut mae Llinellau Cyffuriau yn gweithredu, yr arwyddion rhybudd i gadw llygad amdanynt, a sut i ddiogelu’r bobl ifanc y gofalwch amdanynt.
Bydd y weminar hon yn cynnwys:
• Dealltwriaeth sylfaenol o Linellau Cyffuriau;
• Sut mae Llinellau Cyffuriau’n fygythiad i’n rhanbarthau;
• Arwyddion a symptomau gweithgareddau Llinellau Cyffuriau;
• Terminoleg;
• Sut y gallwn helpu i fynd i’r afael â chamfanteisio yn ein cymunedau.
Bydd yna gyfle i ofyn cwestiynau ac i ofyn am ragor o gyfraniad gan y Ditectif Arolygydd Weber.
Neilltuwch eich lle am ddim: Disgwylir i’r weminar fod yn boblogaidd, ac
felly neilltuwch eich lle yn gynnar, os gwelwch yn dda. Nodwch, os gwelwch yn dda, fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig
Digwyddiadau cysylltiedig
Gweld y cyfanPrevent – Sesiwn Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio
Bydd y weminar rad ac am ddim hon i ofalwyr maeth yn darparu trosolwg ar Prevent, rhaglen Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r nod o atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.

Planning for the future - Pensions Explained
Planning for the future - Pensions Explained member webinar
