Taith Gerdded dros Faethu Caerdydd

Ymunwch â ni i ddathlu Pythefnos Gofal Maeth yng Nghaerdydd!  Ddydd Mawrth, yr 14 o Fai, byddwn yn dod â’r gymuned faethu ynghyd ar gyfer taith gerdded i godi ymwybyddiaeth ac i ddathlu’r gwahaniaeth a wna maethu i blant a phobl ifanc yng Nghymru. 


Byddwn yn cyfarfod yng Ngherddi Sophia am 10.00yb ac yn cerdded ar hyd llwybr byr a hygyrch (llai na dwy filltir) o amgylch Parc Bute, heibio i Gastell Caerdydd, a gorffen wrth siop John Lewis yn Yr Hayes.  Byddwn yn gorffen y bore gyda lluniaeth y bu ein cyfeillion yn John Lewis yn ddigon caredig i’w ddarparu. 


Mae croeso i bawb, ac felly p’un a ydych yn ofalwr maeth, yn gyflogwr sy’n ystyriol o faethu, neu’n aelod o dîm maethu, byddem wrth ein bodd o’ch gweld yno! 

cyhoeddus 12 Mai 26 - 12 Mai 26 10:00 - 12:00 Social Event Free
Archebwch

Digwyddiadau cysylltiedig

Gweld y cyfan
Loading...
aelod

Prevent – Sesiwn Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio

Bydd y weminar rad ac am ddim hon i ofalwyr maeth yn darparu trosolwg ar Prevent, rhaglen Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r nod o atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.

Archwilio nawr
Gettyimages 1011194606
Free
28 Ebrill 2026
Online
Gweminar
aelod

Planning for the future - Pensions Explained

Planning for the future - Pensions Explained member webinar

Archwilio nawr
Picture2gbx (1)
Free
28 Ebrill 2026
Gweminar