Darperir y sesiwn hon gan Alex Waters, Hwyluswr 3 Egwyddor.
Yn y weminar am ddim hon i ofalwyr maeth, cynigir lle diogel, croesawgar a maethlon ichi ailgysylltu â’ch nerth mewnol. Hyd yn oed os ydych yn teimlo’n orbryderus, wedi’ch llethu, neu ynghlwm wrth or-feddwl, yn enwedig am eich rôl fel gofalwr maeth, bydd y gweithdy hwn yn eich helpu i ymdawelu, i fyfyrio ac i ailddarganfod mor gydnerth rydych go iawn.
Byddwn yn archwilio dealltwriaeth syml a dwfn o sut mae iechyd meddwl yn gwirioneddol weithio, a sut mae’n bosibl teimlo’n well ac yn ysgafnach am fywyd, gan ddechrau yn awr. Mae’ch cydnerthedd yn rhan annatod ohonoch. Efallai ei fod ynghudd o dan feddyliau a theimladau trymion, ond mae yno bob amser. Gall gweld hyn yn eglur weddnewid eich lles chi eich hun ac
effeithio’n gadarnhaol ar y plant y gofalwch amdanynt.
Bydd y weminar hon yn cynnwys:
- Deall Iechyd Meddwl
Ymagwedd o’r newydd, hygyrch tuag at sut mae ein meddyliau’n gweithio. - Ailgysylltu â’ch Cydnerthedd Mewnol
Darganfyddwch y cryfder sydd eisoes y tu mewn ichi. - Sgyrsiau Cefnogol
Lle i rannu ac i fyfyrio ar heriau cyffredin mewn gofal maeth. - Offer Ymarferol ar gyfer Llonyddwch Beunyddiol
Teimlwch yn ysgafnach, yn fwy effro, ac yn fwy synhwyrol. - Mewnwelediadau ar gyfer Cynorthwyo Lles Plant
Dysgwch sut mae’ch iechyd meddwl chi’ch hun yn cynorthwyo’r rhai nhw. - Lle Maethlon, Diogel
Cysylltwch ag eraill a theimlwch eu cefnogaeth ar eich taith.
Neilltuwch eich lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly neilltuwch eich lle yn gynnar, os gwelwch yn dda, i fod yn sicr o’ch lle. Nodwch fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig.
Digwyddiadau cysylltiedig
Gweld y cyfanA focus on World mental health day: highlighting the challenges in accessing mental health support for young people, signposting & exploring ways to overcomes this

