Hyrwyddo Diogelwch a Lles Digidol i Bobl Ifanc

Cyflawnir y sesiwn hwn gan Wise Kids


Ymunwch â ni ar gyfer gweminar gefnogol ac ymarferol sy’n archwilio sut i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, yn hyderus ac yn iawn yn eu bywydau digidol. Ystyriwn beryglon ar-lein allweddol, yn 
cynnwys camwybodaeth, dylanwadwyr niweidiol, seiberfwlio, blacmel rhywiol a chysylltiad ag agweddau negyddol megis casineb at ferched — yn ogystal â sut y gall profiadau ar-lein effeithio ar les meddwl, cwsg a pherthnasoedd.


Fe fyddwch yn ennill strategaethau eglur, hygyrch i helpu plant i fagu cadernid digidol, i feddwl yn feirniadol, i herio cynnwys niweidiol ac i ymgysylltu’n gadarnhaol ar-lein.


Bydd y weminar hon yn cynnwys:
• Peryglon ar-lein allweddol i blant a phobl ifanc. 
• Effaith bywyd digidol ar les a pherthnasoedd. 
• Canfod arwyddion cynnar o broblemau ar-lein.
• Ffyrdd ymarferol o fagu cadernid digidol.
• Annog arferion ar-lein cadarnhaol ac iach.
• Modd o gael at ragor o adnoddau ac offer.


Neilltuo’ch lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly neilltuwch eich lle yn gynnar i sicrhau’ch lle. Nodwch, os gwelwch yn dda, fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng 
Nghymru yn unig. 

cyhoeddus 01 Mai 26 - 01 Mai 26 10:00 - 12:30 Gweminar Free
Archebwch

Digwyddiadau cysylltiedig

Gweld y cyfan
Loading...
aelod

Prevent – Sesiwn Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio

Bydd y weminar rad ac am ddim hon i ofalwyr maeth yn darparu trosolwg ar Prevent, rhaglen Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r nod o atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.

Archwilio nawr
Gettyimages 1011194606
Free
28 Ebrill 2026
Online
Gweminar
aelod

Planning for the future - Pensions Explained

Planning for the future - Pensions Explained member webinar

Archwilio nawr
Picture2gbx (1)
Free
28 Ebrill 2026
Gweminar