Darperir y sesiwn hon gan Stuart Khokhar – Gofalwr Maeth a Hyfforddwr.
Gall hebrwng plant i ac o’r ysgol, apwyntiadau iechyd, nosweithiau di-gwsg, amser i’r teulu, a chyfarfodydd adolygu fod yn orlethol i’r rheiny sy’n gofalu am blant. Mae llawer o ofalwyr maeth, gan
gynnwys y fi, wedi teimlo’n hollol flinedig ac wedi’u llethu, gan gael ond ychydig amser i’n hunain.
Mae yna berygl gwirioneddol o orludded yn y rôl hon. Bydd y weminar hon yn cyfathrebu’n eglur nad yw hunanofal yn hunanol, ond yn ystyriaeth hanfodol ar gyfer lles.
Bydd y weminar hon yn cynnwys:
- Adnabod Arwyddion Gorludded:
Sut i wybod pan ydych wedi llwyr flino a beth i’w wneud ynglŷn ag ef. - Strategaethau Hunanofal Ymarferol:
Syniadau syml, realistig ar gyfer gofalu am eich meddwl a’ch corff, hyd yn oed pan fo amser yn
brin. - Goresgyn Euogrwydd:
Pam mae rhoi’ch hun yn gyntaf nid yn unig yn iawn, ond yn angenrheidiol i’r plant yn eich
gofal. - Adeiladu Rhwydwaith Cymorth:
Lle i ganfod cymorth a sut i ofyn am gymorth pan fo arnoch ei angen. - Rhannu Profiadau:
Cyfle i glywed gan ofalwyr maeth eraill ac i rannu’r hyn sy’n gweithio i chi.
Neilltuwch eich lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly neilltuwch eich lle yn gynnar, os gwelwch yn dda, i fod yn sicr o’ch lle. Nodwch fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig
Digwyddiadau cysylltiedig
Gweld y cyfanA focus on World mental health day: highlighting the challenges in accessing mental health support for young people, signposting & exploring ways to overcomes this

