Hunanofal ar gyfer Gofalwyr Maeth (Sesiwn Gyda’r Nos)

Darperir y sesiwn hon gan Stuart Khokhar – Gofalwr Maeth a Hyfforddwr.

Gall hebrwng plant i ac o’r ysgol, apwyntiadau iechyd, nosweithiau di-gwsg, amser i’r teulu, a chyfarfodydd adolygu fod yn orlethol i’r rheiny sy’n gofalu am blant. Mae llawer o ofalwyr maeth, gan 
gynnwys y fi, wedi teimlo’n hollol flinedig ac wedi’u llethu, gan gael ond ychydig amser i’n hunain. 


Mae yna berygl gwirioneddol o orludded yn y rôl hon. Bydd y weminar hon yn cyfathrebu’n eglur nad yw hunanofal yn hunanol, ond yn ystyriaeth hanfodol ar gyfer lles.


Bydd y weminar hon yn cynnwys:

  • Adnabod Arwyddion Gorludded:
    Sut i wybod pan ydych wedi llwyr flino a beth i’w wneud ynglŷn ag ef.
  • Strategaethau Hunanofal Ymarferol:
    Syniadau syml, realistig ar gyfer gofalu am eich meddwl a’ch corff, hyd yn oed pan fo amser yn 
    brin.
  • Goresgyn Euogrwydd:
    Pam mae rhoi’ch hun yn gyntaf nid yn unig yn iawn, ond yn angenrheidiol i’r plant yn eich 
    gofal.
  • Adeiladu Rhwydwaith Cymorth:
    Lle i ganfod cymorth a sut i ofyn am gymorth pan fo arnoch ei angen.
  • Rhannu Profiadau:
    Cyfle i glywed gan ofalwyr maeth eraill ac i rannu’r hyn sy’n gweithio i chi.


Neilltuwch eich lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly neilltuwch eich lle yn gynnar, os gwelwch yn dda, i fod yn sicr o’ch lle. Nodwch fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig

cyhoeddus 04 Rhag 25 - 04 Rhag 25 19:00 - 21:30 Gweminar Free
Archebwch

Digwyddiadau cysylltiedig

Gweld y cyfan
Loading...
aelod

Cothu (Northern Ireland only)

Archwilio nawr
Cothu
Free
13 Tachwedd 2025
Masterclass
aelod

Tick the Box webinar 2025

Archwilio nawr
Tick the Box social media tile
Free
18 Tachwedd 2025
Online
Gweminar