Nodwch fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig.
Cynhelir y weminar ar-lein trwy gyfrwng Teams. Anfonwn ragor o fanylion unwaith y caiff bwciadau eu cadarnhau.
Traddodir y sesiwn hon gan Llwybrau Newydd.
Mae’r weminar am ddim hon ar gyfer gofalwyr maeth yn darparu cyflwyniad eglur ac ymarferol i ddealltwriaeth yn ymwneud â syniadau am rywedd a rolau rhywedd. Mae’n archwilio sut y gall y credoau hyn ddatblygu trwy ddiwylliant, cyfryngau cymdeithasol, dylanwad cymheiriaid ac algorithmau, a sut y gallant ymddangos yn iaith, ymddygiad neu ddisgwyliadau pobl ifanc ohonynt eu hunain ac o eraill.
Bydd y weminar yn archwilio effaith ddichonol rolau rhywedd ar les, perthnasoedd a datblygiad emosiynol, a bydd yn cryfhau hyder gofalwyr o ran cael ymatebion digyffro a chefnogol.
Amcanion Dysgu
• Datblygu dealltwriaeth fwy eglur o dermau a naratifau cyffredin yn ymwneud â rhywedd.
• Cynyddu ymwybyddiaeth o ddylanwadau ar-lein a chymdeithasol ar syniadau am rywedd.
• Adnabod effaith ddichonol ar les a hunaniaeth pobl ifanc.
• Magu hyder wrth ymateb mewn ffordd ddiogel, gefnogol.
• Deall pa bryd a sut i gael at ragor o gymorth.
Neilltuo’ch lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly bwciwch yn gynnar, os gwelwch yn dda, i sicrhau’ch lle.
Digwyddiadau cysylltiedig
Gweld y cyfanPrevent – Sesiwn Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio
Bydd y weminar rad ac am ddim hon i ofalwyr maeth yn darparu trosolwg ar Prevent, rhaglen Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â’r nod o atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.

Planning for the future - Pensions Explained
Planning for the future - Pensions Explained member webinar
