Mae Maethu Lles yn rhaglen arloesol a ariannir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Y Rhwydwaith Maethu, sydd â’r nod o wella deilliannau lles i blant a phobl ifanc.
Mae’r rhaglen yn hyrwyddo cydraddoldeb statws i bawb sy’n gysylltiedig â’r ‘tîm o amgylch y plentyn’, yn cynnwys gofalwyr maeth. Mae’n annog gweithwyr proffesiynol i gydweithio gydag ymagwedd ar y cyd, gan greu iaith gyffredin a chaniatáu i arferion gorau drosglwyddo ledled ffiniau’r gwasanaeth.