Traddodir y sesiwn hon gan Martina Wolter, Therapydd Teulu Systemig a Seicotherapydd  

 

Gweminar am ddim i ofalwyr maeth lle y cewch well dealltwriaeth o ddatblygiad yr ymennydd dynol, sy’n pwysleisio ar yr ymennydd llencynnaidd a’r prosesau o ‘docio’ y mae’n mynd drwyddynt.  Bydd y weminar hefyd yn ystyried effeithiau’r ymennydd sy’n newid ar wahanol agweddau o fywyd arddegolyn, megis ymddygiad, dysgu, cysylltiadau cymdeithasol, a symudiad i annibyniaeth.  Edrychwn ar effeithiau trawma ar yr ymennydd sy’n datblygu ac archwiliwn sut y gall gofalwyr gynorthwyo’u harddegion orau.  

  

Deilliannau Dysgu 

  • Deall Datblygiad Ymennydd – Enillwch ddirnadaeth ddyfnach o sut mae’r ymennydd dynol yn datblygu, gan ganolbwyntio ar lencyndod a’r prosesau ‘tocio’ sylweddol sy’n digwydd. 

 

  • Adnabod Newidiadau mewn Ymddygiad – Archwiliwch effeithiau’r ymennydd llencynnaidd sy’n newid ar ymddygiad, llunio penderfyniadau, rheoleiddio emosiynol, a byrbwylltra.  

 

  • Llywio trwy Gysylltiadau Cymdeithasol - Archwiliwch y newidiadau niwrolegol sy’n effeithio ar ryngweithio cymdeithasol, perthnasoedd rhwng cymheiriaid, a’r symudiad tuag at annibyniaeth. 

 

  • Deall Effaith Trawma – Dysgwch am effeithiau trawma ar yr ymennydd sy’n datblygu, gan adnabod arwyddion a deall canlyniadau cyfnod hir. 

 

  • Darparu Cymorth fel Gofalwr – Nodwch arferion gorau i ofalwyr wrth gynorthwyo arddegion trwy’r cyfnod datblygol hwn, gan faethu cydnerthedd, lles emosiynol, a llunio penderfynu iach. 

 

Neilltuo’ch lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly bwciwch yn gynnar i sicrhau’ch lle, os gwelwch yn dda.

cyhoeddus 23 Medi 25 - 23 Medi 25 09:30 - 12:30 Gweminar Free
Archebwch

Digwyddiadau cysylltiedig

Gweld y cyfan
Loading...
aelod

Cothu

Archwilio nawr
Image not available
Free
10 Medi 2025
Masterclass
aelod

Tax & National Insurance for Foster Carers

Tax & National Insurance for Foster Carers - Member Webinar

Archwilio nawr
Image not available
Free
23 Medi 2025
Gweminar