Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD) Gweminar

Darperir y sesiwn hon gan Stuart Khokhar – Gofalwr Maeth a Hyfforddwr.


Gall dod i gysylltiad ag alcohol yn ystod beichiogrwydd beri newidiadau anwrthdroadwy i ymennydd sy’n datblygu, gan effeithio ar ddatblygiad gwybyddol, emosiynol a chorfforol. Mae’r niwed hwn yn digwydd cyn genedigaeth ond mae ganddo ganlyniadau gydol oes. Yn y weminar hon, byddwn yn rhannu profiad bywyd gofalwr maeth o gynorthwyo plentyn y gwyddys ac y dogfennwyd iddo ddod i gysylltiad ag alcohol cyn genedigaeth. Bydd y sesiwn yn cynnig mewnwelediad i’r realitïoedd o ofalu 
am blentyn sydd ag Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws(FASD), a’r agweddau ymarferol o ddarparu cymorth cyfnod hir.

Bydd y weminar hon yn cynnwys:

  • Beth yw FASD?
    Deall y cyflwr a’i effaith ar ddatblygiad.
  • Sut mae’n digwydd?
    Archwilio effeithiau dod i gysylltiad ag alcohol yn ystod beichiogrwydd.
  • Sut mae’n ymddangos?
    Adnabod yr arwyddion a’r symptomau mewn plant a phobl ifanc.
  • Pa gymorth y mae ar y person ifanc ei angen?
    Nodi strategaethau ac adnoddau i ddiwallu’u hanghenion.
  • Beth yw goblygiadau ac agweddau ymarferol cyfnod hir gofal?
    Myfyrio ar yr heriau a’r ystyriaethau i ofalwyr maeth.


Neilltuwch eich lle am ddim: Disgwyliwn i’r weminar fod yn boblogaidd, ac felly neilltuwch eich lle yn gynnar, os gwelwch yn dda, i fod yn sicr o’ch lle. Nodwch fod y weminar hon ar gyfer gofalwyr maeth yng Nghymru yn unig. Anfonwch e-bost at [email protected]

cyhoeddus 15 Ion 26 - 15 Ion 26 10:00 - 12:30 Gweminar Free
Archebwch

Digwyddiadau cysylltiedig

Gweld y cyfan
Loading...
aelod

Cothu (Northern Ireland only)

Archwilio nawr
Cothu
Free
13 Tachwedd 2025
Masterclass
aelod

Tick the Box webinar 2025

Archwilio nawr
Tick the Box social media tile
Free
18 Tachwedd 2025
Online
Gweminar