Llinell Faethu Cymru: Achubiaeth i ofalwyr maeth

Gan Alun Richards, Gweithiwr Llinell Faethu Cymru.

Bron i ddegawd yn ôl, cydnabu Llywodraeth Cymru y pwysigrwydd o gyllido llinell gynghori annibynnol i gefnogi gofalwyr maeth yng Nghymru, ac ers hynny, maent wedi ariannu’r Rhwydwaith Maethu i ddarparu Llinell Faethu Cymru.  Fel mae’r broses ddatganoli wedi cyflymu yng Nghymru, mae pwysigrwydd y gwasanaeth a ddarperir gan Linell Faethu Cymru wedi cynyddu’n aruthrol.

Rwyf wedi bod yn gweithio ar Linell Faethu Cymru er 2007, ac rwyf wedi’i gweld hi’n fraint gallu cefnogi gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac eraill sy’n rhan o’r tîm maethu.  Dywed llawer o ofalwyr maeth wrthym fod Llinell Faethu Cymru yn achubiaeth iddynt, sy’n werth chweil i’w glywed.  Siaradais yn ddiweddar â gofalwr maeth oedd yn gofalu am ddau frawd o dan bum mlwydd oed oedd ag anghenion sylweddol, ac roedd yn credu nad oeddynt yn cael eu diwallu gan wasanaethau cymdeithasol neu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.  Roeddwn yn gallu tawelu meddwl y gofalwr a’i gynghori ar gynllun gweithredu oedd yn cynnwys cadw cofnod gofalus o anghenion ac ymddygiadau’r brodyr, a rhannu’r wybodaeth hon â’r ysgol, ymwelydd iechyd a gweithiwr cymdeithasol, a pharatoi datganiad o’r anghenion hynny ar gyfer yr adolygiad sydd ar y gweill o blant sy’n derbyn gofal.

Gyda degfed pen-blwydd Llinell Faethu Cymru ar y gorwel, cynhaliom arolwg yn ddiweddar o ddefnyddwyr, ac roeddem wrth ein bodd mai’r adborth llethol oedd ei bod wedi magu enw haeddiannol iawn fel ffynhonnell ddibynadwy o gyngor a gwybodaeth.  Dywedodd dau o bob tri o ofalwyr maeth wrthym eu bod wedi canfod y gwasanaeth a ddarperir yn ardderchog, a defnyddiasant ymadroddion fel ‘Llawn cymorth, cefnogol, proffesiynol a gwybodus’ a ‘Darparodd Llinell Faethu gefnogaeth a chyngor gwir eu hangen imi roeddwn wedi’i chael hi’n anodd eu canfod rywle arall.’

Mae Llinell Faethu Cymru yn cynnig gwasanaeth dwyieithog o ran gwybodaeth, cynghori, cefnogi a dangos y ffordd i bawb sy’n gysylltiedig â gofal maeth yng Nghymru, yn cynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac aelodau eraill o’r tîm maethu:

Gwybodaeth a chyngor

Mae Llinell Faethu Cymru yn darparu gwybodaeth am bob agwedd o ofal maeth, yn cynnwys:

  • treth ac yswiriant gwladol
  • budd-daliadau
  • lwfansau
  • yswiriant

Cefnogaeth

Mae Llinell Faethu Cymru yn cynnig cefnogaeth gyfrinachol, yn cynnwys i’r rheiny:

  • sy’n wynebu honiadau
  • sy’n pryderu am y cynllun gofal
  • sy’n ansicr ynglŷn â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau yn ymwneud â gofal maeth yng Nghymru 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am unrhyw agwedd o faethu, cysylltwch â Llinell Faethu Cymru, sy’n agored o 9.30yb-12.30yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

0800 316 7664

author Follow this blogger